top of page

Diwrnod ym Mywyd...

HHJ Jeremy Jenkins

Barnwr Cylchdaith

Llys y Goron, Cylchdaith Cymru a Chaer

image_edited.png
Er nad oes dau ddiwrnod yr un fath, fy nghyfrifoldeb cyffredinol yw clywed achosion troseddol a dedfrydu troseddwyr sy’n torri’r gyfraith. Mae hyn yr un mor amrywiol â’r gyfraith ei hun a gall gynnwys anfon rhywun i’r carchar, gorchymyn iddynt wneud gwaith i’r gymuned, eu dirwyo, neu eu rhyddhau’n ddiamod yn yr achosion lleiaf difrifol. Fy rôl yw Barnwr Cylchdaith, ac rwy’n cael fy nghyflogi gan y Weinyddiaeth Cyfiawnder*.

Crynodeb o'r rôl

Beth sy'n gwneud y swydd yma'n arbennig?

Er y gall swydd barnwr fod yn un gofynnol a rhwystredig ar adegau, mae’n dod â  cryn dipyn o foddhad deallusol a chyflawniad. Rwy’n gweithio dan bwysau amser ac o dan graffu’r llysoedd uwchraddol, y cyfryngau a’r cyfreithwyr; yn aml, nid yw fy mhenderfyniadau’n boblogaidd - yn enwedig ymhlith diffynyddion. Fodd bynnag, mae gweld achos yn dod i gasgliad cyfiawn yn rhoi boddhad ac ymdeimlad o werth. Ystyriaf fy hun yn hynod o lwcus a breintiedig i wneud y gwaith rwyf yn cael fy ymddiried i’w wneud; ni chymeraf y cyfrifoldeb hwnnw’n ysgafn nac yn ganiataol. Rwy’n parhau’n ddiduedd ac yn ymdrechu ym mhob achos i fod yn deg yn ôl y gyfraith.

Trefn Diwrnod Arferol

Fel arfer, mae fy niwrnod yn dechrau ychydig wedi 9 yb. Yn gyntaf, rwy’n ymdrin ag unrhyw ohebiaeth a ddaeth dros nos ac yn sicrhau bod unrhyw faterion brys yn cael eu datrys cyn i’r llys ddechrau am 10 yb.

​

Yna, rwy’n dechrau gweithio drwy fy rhestr o achosion. Mae’r rhain yn amrywio’n sylweddol - gallant gynnwys gwrandawiadau byr iawn neu adolygiadau cyn treial am dderbynioldeb tystiolaeth. Efallai y bydd rhai achosion wedi’u rhestru ar gyfer dedfrydu, neu eraill ar gyfer achosion ategol eraill.

​

Unwaith y byddaf wedi cwblhau’r materion hynny, byddaf naill ai’n ailgychwyn neu’n dechrau treial. Mae’r treialon eu hunain yn amrywio; gallant ymwneud ag achosion difrifol iawn neu mân droseddau fel lladrata siop, ond mae pob un ohonynt yn bwysig i’r diffynnydd - beth bynnag fy marn personol ar y mater.

​

Ar ddiwedd pob dydd, rwy’n ymdrin â’r hyn a elwir yn “waith blwch”. Dyma’r gwaith gweinyddol a wneir y tu allan i’r llys, ac mae’n gallu amrywio o ganiatau gwÅ·s tystion i warantau chwilio.
 

Llwybr Gyrfa

Gyrfa Cynnar

Roedd gennyf ddiddordeb mewn cyfraith erioed ac roeddwn eisiau ei hastudio hyd at lefel gradd. Ar ôl ennill fy ngradd, es i weithio yng nghwmni cyfreithwyr fy nhad-bedydd, lle cefais y cyfle i ddod ar draws bargyfreithiwr yn y llys a gweld treial troseddol am y tro cyntaf. Roeddwn wedi fy swyno gan y broses gyfan, ac o hynny ymlaen bûm yn benderfynol ac yn ysbrydoledig i ddilyn gyrfa yn y Bar.

        Doedd gen i ddim syniad sut i fynd ati i wneud hyn, na pha gamau i’w cymryd i wireddu’r uchelgais hwnnw. Ond, fe bues i digon ffodus i gael cymorth gan Ei Anrhydedd y Barnwr Bruce Griffiths, barnwr yng Nghaerdydd, gynigiodd yn garedig i mi dreulio wythnos gyda fe yn Llys 3, Llys y Goron Caerdydd. Ganddo ef mi wned i ddysgu yr holl dermau cyfreithiol, ac sut i fynd ati i hyfforddi fel bargyfreithiwr.

Hyfforddi fel Bargyfreithiwr

Mi wnes i gais ar gyfer pob un o Ysbytai’r Frawdlys. Ymunais gyda’r Deml Fewnol, am ddim rheswm arall oni bai am nhw ddaru fy ateb gyntaf! (Doedd gen i ddim syniad bryd hynny mai Ybyty Gray oedd y dewis traddodiadol i Gymry.) Mi wnes i gwblhau fy arholidadau, cyn cwblhau pupillage yn #32 Plas y Parc (9 Plas y Parc erbyn hyn).

Attorney-at-Law

Fel mae’n digwydd, ar ddiwedd fy mhupillage, y pupil arall (y dyn a daeth i fod yn Ei Anrhydedd y Barnwr John Curran) cafodd ei dderbyn fel tenant yn fy lle, a minnau mewn angen am swydd newydd. Derbynnais swydd fel ‘Attorney-at-Law’ yn Ynysoedd y Caiman, lle bum yn gweithio am 5 mlynedd cyn dychwelyd i Lundain.

Bargyfreithiwr

It was whilst I was conducting the defence of a London ticket tout who had been selling fake tickets for a rugby international at The Arms’ Park in Cardiff that I was offered the chance to return to Wales as a tenant at #32 Park Place. That was in 1992.

Gyrfa Barnwrol

I was appointed a Recorder in 2008 and a full time Circuit Judge in 2016. It has been a joy to have been part of the Bar in Wales for so long and to have completed my career here in Wales amongst colleagues and friends. I regard myself as extremely lucky to have been given such opportunities and make a point of welcoming students into my court at all times, so they can learn as I did first hand what the job entails.

"Buaswn yn dweud wrth y myfyriwr hwnnw i ddilyn eu breuddwydion ac i beidio â digalonni gan gystadleuaeth na statws. Maent angen bod yn barod am waith caled, tâl anghymesur, ond gwobrau deallusol gwych, cwmni ysgogol, a gyrfa fel dim un arall".

Cyngor HHJ Jenkins i fyfyrwyr sy'n ystyried gyrfa gyfreithiol.

"Ymgeisiwch i Siambr Bargyfreithwyr yn eich ardal am gyfle i ddilyn bargyfreithiwr yn y gwaith. Gofynnwch gwestiynau. Dangoswch ddiddordeb. Mynychwch y llysoedd lleol a gwylio’r cyfreithwyr i gael teimlad o’r hyn sy’n eich disgwyl. Yn fwy na dim, credwch yn chi’ch hun a’ch gallu i lwyddo".

Arweiniad HHJ Jenkins ynglyn â phrofiad gwaith.

*Mae geiriau HHJ Jenkins wedi eu cyfiaethu o'r Saesneg.

_Deall y Drefn Logo.png

Gwybodaeth yw Grym.

Cysylltu

E-bost:
deallydrefn@gmail.com

Neu gyrrwch neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol!

© 2025 gan Deall y Drefn.

bottom of page