Ein Cenhadaeth
Cafwyd Deall y Drefn ei sefydlu er mwyn sicrhau nad yw mynediad at y proffesiwn cyfreithiol yn dibynnu ar iaith, cefndir na chysylltiadau personol. Er bod y gyfraith yn chwarae rhan ganolog mewn cymdeithas teg, mae’r llwybrau i’r proffesiwn yn aml yn anodd eu llywio - yn enwedig i bobl ifanc heb rwydwaith o gysylltiadau cyfreithiol.
I siaradwyr Cymraeg, mae’r her hon yn cael ei dwysau gan brinder o adnoddau drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o wybodaeth allweddol am y Bar a’r broffesiwn gyfreithiol ar gael yn Saesneg yn unig, gan greu rhwystr ychwanegol i’r rhai sy’n dymuno archwilio gyrfa gyfreithiol yn eu mamiaith.
Bwriad yr adnodd hwn yw mynd i’r afael â’r anghydraddoldeb hwnnw. Trwy ddarparu gwybodaeth eglur, cywir a hygyrch yn y Gymraeg, mae’r wefan yn ceisio hyrwyddo mynediad teg at y gyfraith a chefnogi amrywiaeth yn y proffesiwn. Credwn fod cynrychiolaeth ehangach yn y Bar a’r broffesiwn gyfreithiol yn hanfodol i sicrhau system cyfiawnder sy’n adlewyrchu’r gymdeithas y mae’n wasanaethu.

Amdanaf i - Cenin Siôn

Fi yw sefydlwr Deall y Drefn.
Mae’r fenter hon yn adlewyrchu fy ymrwymiad i hyrwyddo proffesiwn gyfreithiol amrywiol a chyfartal.
Wrth nodi prinder adnoddau cyfreithiol hygyrch yn fy mamiaith, datblygais y wefan hon er mwyn darparu gwybodaeth ac arweiniad ar systemau cyfreithiol a llwybrau gyrfa yn y gyfraith i fyfyrwyr sy'n anelu at yrfa cyfreithiol.
Llwybr Gyrfa

Gyrfa academaidd
Coleg Meirion-Dwyfor Pwllheli (2018 - 2020)
Lefel A - Cymraeg, Hanes a'r Gyfraith
Coleg y Brenin Llundain (2020 - 2024)
Gradd Baglor LLB - Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a'r Gyfraith
Prifysgol Caerdydd (2024 - 2025)
Cwrs Hyfforddi'r Bar ac LLM
Gwobrau ac ysgoloriaethau
2025
Derbyniais dystysgrif mewn Eiriolaeth Gymraeg gan Brifysgol Caerdydd
2025
Cyrhaeddais y pumed marc uchaf mewn Eiriolaeth Treial o fewn carfan BTC Prifysgol Caerdydd
2024
Ysgoloriaeth Wilfred Getz, Anrhydeddus Gymdeithas Gray’s Inn
2019
Ysgoloriaeth Robin Llyr
2019
Myfyriwr â’r Perfformiad Gorau, Ysgol Haf SEREN Prifysgol Rhydychen
2019
Budd-dderbynnydd Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund-Davies (LEDLET)
Aelodaethau proffesiynnol
2025 - Presennol
Aelod o Gymdeithas Bar Cyfraith Weinyddol
2023 - Presennol
Aelod o Anrhydeddus Gymdeithas Gray’s Inn
Gyrfa broffesiynnol
Gweithiwr Achos Cyfraith Tai - Shelter Cymru
2025 - Presennol
- Darparu cyngor cyfreithiol a gwasanaethau eiriolaeth i bobl mewn angen tai ar draws Gogledd-orllewin Cymru.
- Cynnal sesiynau cyngor, cynrychioli cleientiaid mewn gwrandawiadau llys, a gweithio’n gydweithredol gyda gwasanaethau eraill, awdurdodau lleol a chymdeithasau tai.
- Cyfrannu at ddatblygu polisïau tai, hyrwyddo arfer gorau, a chefnogi gweithgareddau hyfforddi a phobl wirfoddol.