Nid oedd gen i Lefel A yn y Gyfraith. Fy mhynciau Lefel A oedd y Gymraeg, Hanes, Dearyddiaeth ac Addysg Grefyddol. Fe wnes i dderbyn gradd dosbarth cyntaf yn y Gyfraith o Brifysgol Caerdydd. Ar ol hynny, cwblheais yr SQE gydag Ysgol Barbri yn Llundain, a chefais brofiad hyfforddi efo cwmniau cyfreithiol yn Llundain ac yna Gaerdydd.
Llwybr gyrfa
Beth sy'n gwneud y swydd yma'n arbennig?
Dwi wrth fy modd efo’r gwaith dwi’n ei wneud oherwydd dwi’n delio efo materion ‘go iawn’ – gall hynny fod yn waith y Llys Gwarchod neu gwaith adolygiad barnwrol – mae nhw’n faterion pwysig gall ein heffeithio ni i gyd, bob un dydd! Pan roedd y newyddion yn gohebu ar achos adolygiad barnwrol y Tywysog Harri, roeddwn yn gwylio efo diddordeb mawr, achos roedd yr egwyddorion cyfreithiol oedd yn cael eu trafod yr un peth a’r egwyddorion dwi’n delio fwy neu lai gyda hwy bob un dydd!
Dwi hefyd wrth fy modd cael dadlau achos ar ran fy ngleientiaid, a deall yr hyn sydd yn eu cadw hwy yn brysur o ddydd i ddydd.
Trefn Diwrnod Arferol
Fel dwi wedi ei nodi uchod, mae’r maes dwi’n arbenigo ynddi yn hynod amrywiol a nid oes unrhyw ddydd yr un peth a’r llall – dyna yn ei hanfod dwi’n ei garu am fod yn gyfreithiwr.
Mae fy ngwaith o ddydd i ddydd, neu o wythnos i wythnos yn cynnwys:
-
Cyfarfod cleientiaid;
-
Mynychu y Llys (gan gynnwys y Llys Gwarchod);
-
Drafftio cyngor i gleientiaid;
-
Gwaith datblygu’r busnes;
-
Goruchwylio a mentora aelodau iau y tim.
​
Gall fy ngwaith hefyd gynnwys mynychu digwyddiadau allanol. Gall hyn gynnwys:
-
Mynychu digwyddiadau rhwydweithio;
-
Mynychu diwrnodau hyfforddi;
-
Gwaith pro-bono yn y gymuned.
Crynodeb o'r rôl

Fy rôl a'm cwmni
Rwyf yn uwch-gyfreithiwr cyswllt efo cwmni Blake Morgan yng Nghaerdydd. Mae Blake Morgan yn gwmni cyfreithiol gwasanaeth llawn, sydd efo swyddfeydd ar hyd a lled y Deyrnas Unedig.
Abrennigedd mewn cyfraith gyhoeddus
Dwi’n arbenigo yn benodol mewn anghydfodau cyfraith gyhoeddus, sef yn syml,dadleuon cyfreithiol rhwng cyrff cyhoeddus ac eraill (i gynnwys rhwng y cyrff cyhoeddus eu hunain – e.e. angydfod rhwng awdurdod lleol a bwrdd iechyd).
O ran yr anghydfodau yma, maent yn amrywio o achosion adolygiad barnwrol (sef achos ble mae’r Llys yn adolygu cyfreithlondeb penderfyniad sydd wedi ei wneud gan gorff cyhoeddus), ac achosion caffael (sef achosion ble mae sefydliadau yn herio’r broses lle mae'r llywodraeth a chyrff eraill y sector gyhoeddus yn prynu nwyddau, gwasanaethau a gwaith gan gwmnïau preifat, er mwyn sicrhau prosesau teg, tryloyw a chost-effeithiol i ddiogelu budd y cyhoedd ac arian trethdalwyr). Mae fy ngwaith hefyd yn cynnwys ymchwiliadau cyhoeddus (e.e. Ymchwiliad Cyhoeddus Covid-19 ac Ymchwiliad Cyhoeddus Horizon).
Y Llys Gwarchod
Dwi hefyd yn arbenigo yng ngwaith y Llys Gwarchod (Court of Protection). Mae'r Llys Gwarchod yn llys arbenigol yn y Deyrnas Unedig sy'n ymdrin â phenderfyniadau ynghylch materion ariannol a lles pobl sydd heb y gallu meddyliol i wneud y penderfyniadau hynny drostynt eu hunain.
​
Dwi’n cynrychioli nifer o gyrff cyhoeddus yng ngwaith y Llys Gwarchod, sy’n amrywio o awdurdodau lleol a byrddiau iechyd yng Nghymru a Lloegr. Mae’n faes cyfreithiol hynod o ddiddorol, ac ar adegau helaeth, yn cynnwys materion sensitif a phenderfyniadau andros o anodd (e.e. gwneud cais i’r Llys i ddiffodd peiriant bywyd gan nad oes cytundeb ymysg y gweithwyr proffesiynol os y dylid parhau gyda thriniaeth person gwael sydd yn methu y gally meddyliol i wneud penderfyniad drostynt eu hunain).
Gwerth y Gymraeg yn y Maes Gyfreithiol
Dwi wedi bod yn andros o ffodus hyd yma yn fy ngyrfa i allu wneud rhan helaeth o fy ngwaith drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gynnwys cynrychioli Comisiynydd y Gymraeg mewn achosion gerbron Tribiwnlys y Gymraeg.
Mae gallu’r iaith Gymraeg yn sgil hynod o werthfawr yn y maes Cyfreithiol, sydd yn cael ei werthfawrogi yn arw gan gleientiaid dwi’n ddigon ffodus i weithio efo. Enghraifft o hynny yn benodol yw gwaith y Llys Gwarchod, pan yn delio efo materion sensitif a all fod yn emosiynol i bawb sydd wrthi yn gweithio ar achos. Fel siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, dwi’n gwybod i sicrwydd bod cyfathrebu yn yr iaith Gymraeg yn haws i lawer, yn enwedig pan yn delio efo achosion sensitif ac anodd.
Cyngor Daniel i fyfyrwyr Lefel A.
Cadwch eich meddwl yn agored. Mae’r Gyfraith yn hynod eang a does dim rhaid dewis pa faes i arebenigo ynddi yn syth – byddwch yn chwilfrydig, gofynnwch gwestiynnau, datblygwch broffil proffesiynol yn fuan yn eich gyrfa (hyd yn oed yn y Brifysgol – gall hyn fod mor syml a chreu proffil LinkedIn), ymchwiliwch y cwmniau cyfreithiol sydd o gwmpas.
