Barnwr
Gweinyddu cyfiawnder.
Mae Barnwyr yn goruchwylio achosion llys ac yn gwneud penderfyniadau cyfreithiol pwysig. Maent yn sicrhau bod treialon yn cael eu cynnal yn deg, yn dehongli'r gyfraith, ac yn dedfrydu troseddwyr. Mae angen profiad helaeth fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr i ddod yn farnwr.
Crynodeb o'r rôl
Sgiliau angenrheidiol
-
Didueddrwydd - gallu gwneud penderfyniadau teg heb ragfarn
​
-
Gwybodaeth ddofn o'r gyfraith - dealltwriaeth eang o gyfreithiau a chynseiliau
​
-
Gwrando astud - gallu canolbwyntio a deall dadleuon cymhleth
​
-
Barn gadarn - gallu gwneud penderfyniadau anodd dan bwysau
​
-
Cyfathrebu clir - egluro dedfrydau a phenderfyniadau'n effeithiol
Ehangder y term 'barnwr'
Mae'r term 'barnwr' yn un eang iawn sy'n cynnwys llawer o wahanol lefelau a rolau yn y system gyfreithiol. Ar y lefel isaf, mae Ynadon (Magistrates) - pobl gyfredin nad ydynt yn gyfreithwyr proffesiynol, sy'n gwirfoddoli i wrando ar droseddau llai difrifol yn y llysoedd ynadon. Yna mae Barnwyr Dosbarth (District Judges), sy'n gyfreithwyr proffesiynol cyflogedig sy'n delio ag achosion sifil a throseddol symlach. Mae Barnwyr Cylchdaith (Circuit Judges) yn uwch, yn eistedd yn y Llysoedd Sirol a'r Llys y Goron i wrando ar achosion mwy difrifol fel treialon rheithgor.
​
Ar lefel uwch wedyn, mae Barnwyr yr Uchel Lys (High Court Judges), sy'n delio ag achosion cymhleth a phwysig, ac maent yn cael eu galw'n 'Mr/Mrs Justice'. Yn uwch na hyn mae Barnwyr Llys Apêl (Court of Appeal Judges neu 'Lord/Lady Justices of Appeal'), sy'n adolygu penderfyniadau llysoedd is. Ar y brig mae Ustusiaid y Goruchaf Lys (Supreme Court Justices), sef y 12 barnwr uchaf yn y wlad sy'n penderfynu ar achosion cyfreithiol o bwysigrwydd cenedlaethol.
​
Mae'r gwahaniaeth rhwng y lefelau hyn yn sylweddol - o ran cymwysterau (o wirfoddolwyr cyffredin i gyfreithwyr â degawdau o brofiad), cyfrifoldebau (o droseddau traffig i achosion cyfansoddiadol pwysig), cyflog (o ddim byd i dros £250,000 y flwyddyn), a dylanwad (o benderfyniadau lleol i achosion sy'n newid y gyfraith i bawb). Mae llwybr gyrfa barnwr yn un hir iawn - fel arfer, mae angen o leiaf 7-15 mlynedd o brofiad fel cyfreithiwr neu fargyfreithiwr i ddod yn farnwr cylchdaith, a llawer mwy fyth i gyrraedd y Goruchaf Lys.
Llwybr Gyrfa

I wneud cais am rolau barnwrol sydd angen cymwysterau cyfreithiol yn y system llysoedd, byddech yn gwneud cais trwy'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol (Judicial Appointments Commission - JAC) sy'n penodi barnwyr.
Yn ogystal â bodloni meini prawf cymhwysedd sylfaenol y rôl farnwrol (e.e. 5-7 mlynedd o brofiad), mae proses ddethol hir - sy'n gofyn am geisiadau ac asesiadau - y bydd manylion ohonynt, a'r meini prawf sy'n llywodraethu addasrwydd, yn dibynnu ar y rôl ac uwchdra ei statws.
Wedi iddych gael eich penodi gan y Llywodraeth, mae barnwyr yn parhau i dderbyn hyfforddiant parhaol.