top of page

Diwrnod ym Mywyd...

Megan Huws

Cyfreithiwr Cyflogaeth

Capital Law 

Megan-Huws_edited.jpg

Rwy’n Gyfreithiwr Cyflogaeth (NQ) yn Capital Law yng Nghaerdydd. Mae Capital Law yn gwmni cyfreithiol masnachol sy’n gweithio gyda chleientiaid ar draws Cymru, Lloegr, a thu hwnt. Mae gennym swyddfeydd yn Llundain ac ym Mharis. Yn fy rôl, rwy’n cynghori cyflogwyr a gweithwyr ar amrywiaeth eang o faterion cyfraith cyflogaeth ac Adnoddau Dynol.

 

O ddydd i ddydd, rwy’n rhoi cyngor cyfreithiol ar faterion fel disgyblu a chwynion, terfynu cyflogaeth, gwahaniaethu, rheoli absenoldeb salwch, hawliau gweithwyr, a hawliadau o flaen y Tribiwnlys Cyflogaeth. Mae gen i ddiddordeb penodol mewn achosion tribiwnlys, ac rwy’n treulio cryn dipyn o amser yn paratoi achosion am wrandawiadau, drafftio dogfennau cyfreithiol, a chyfathrebu â chleientiaid.

Crynodeb o'r rôl

Beth sy'n gwneud y swydd yma'n arbennig?

Mae cyfraith cyflogaeth yn ymwneud â phobl, ac mae hynny’n gwneud y gwaith yn werth chweil. Rwy’n mwynhau helpu unigolion a sefydliadau i ddeall eu hawliau a’u cyfrifoldebau, yn enwedig mewn sefyllfaoedd sy’n gallu bod yn sensitif. Mae’r amrywiaeth o dasgau yn golygu bod y swydd yn heriol ond hefyd yn hynod ddiddorol a gwobrwyol. Dilyn gyrfa ystyrlon ble y gallaf wneud gwahaniaeth sy'n fy ysgogi, felly’n gweddu gyda fy mhersonoliaeth.

 

Mae’r her ddeallusol hefyd yn apelio’n fawr ataf. Mae dadansoddi problemau cyfreithiol cymhleth, cymhwyso’r gyfraith at ffeithiau go iawn, a dod o hyd i atebion ymarferol yn rhoi boddhad mawr, yn enwedig pan yr ydych yn teimlo eich bod gwir wedi helpu unigolyn neu fusnes.

Trefn Diwrnod Arferol

Mae pob diwrnod yn wahanol, ond dyma enghraifft o sut gallai diwrnod nodweddiadol edrych:

  • Bore: Adolygu e-byst a blaenoriaethu tasgau’r diwrnod. Gall hyn gynnwys ymateb i ymholiadau brys gan gleientiaid, adolygu tystiolaeth, neu baratoi cyngor ysgrifenedig ar faterion cyflogaeth benodol. Rwy’n postio diweddariad capasiti i’r tîm yn rheolaidd er mwyn rheoli fy llwyth gwaith a chyfathrebu beth sydd gennyf ymlaen yr wythnos honno.

  • Canol dydd: Drafftio dogfennau cyfreithiol fel llythyrau cyngor, datganiadau tystion, manylion hawliad (ET1), neu seiliau gwrthwynebiad i hawliad (ET3), agenda rheoli achosion neu wrandawiad rhagarweiniol, ymatebion i hawliadau tribiwnlys, neu gytundebau setliad. Rwy’n cymryd rhan mewn cyfarfodydd gyda chleientiaid a chydweithwyr i drafod strategaeth achos.

  • Prynhawn: Gweithio ar achosion tribiwnlys, gan gynnwys dadansoddi ffeithiau, ymchwilio i’r gyfraith berthnasol, a pharatoi ar gyfer gwrandawiadau. Gall hyn hefyd gynnwys galwadau ffôn gyda chleientiaid neu’r ochr arall/gwrthblaid.

  • Diwedd y dydd: Trefnu’r gwaith ar gyfer y dyddiau nesaf, creu rhestr o flaenoriaethau, a sicrhau bod pob tasg ar y trywydd iawn.

Llwybr Gyrfa

Cyflawniadau academaidd

Astudiais Athroniaeth a’r Gymraeg (BA) ym Mhrifysgol Caerdydd, lle derbyniais radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf. Yn ystod fy ngradd, derbyniais nifer o wobrau ac ysgoloriaethau, gan gynnwys Ysgoloriaeth Prifysgol Caerdydd (am raddau Lefel A), Gwobr G J Williams Ysgol y Gymraeg (am farciau uchaf y flwyddyn yn fy mlwyddyn gyntaf), a gwobr Cynllun Gradd Israddedig Ysgol y Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth (am y perfformiad gorau ar y rhaglen radd) a wnaeth helpu ariannu ffioedd fy nghwrs israddedig. Mae gweithio'n galed yn ystod Lefel A ar flwyddyn gyntaf y brifysgol yn amlwg yn bwysig, ac mae fy nghefndir mewn Athroniaeth wedi dylanwadu’n gryf ar y ffordd rwy’n mynd ati i ddatrys problemau cyfreithiol mewn modd rhesymegol.

Addysg gyfreithiol a hyfforddiant broffesiynol

Ar ôl hynny, cwblheais y cwrs Diploma Graddedig yn y Gyfraith (cwrs trosi i’r Gyfraith - GDL); hwn oedd y tro cyntaf i mi astudio'r Gyfraith, felly roedd yn gam mawr yn fy ngyrfa, ond rwy'n hapus iawn gyda fy mhenderfyniad. Ar ôl ei gwblhau, penderfynais i barhau ym maes y Gyfraith a dilyn y cwrs Meistr Ymarfer Cyfreithiol (LPC LLM) ym Mhrifysgol Caerdydd gan ei fod am ganiatáu i mi gaffael y sgiliau, y wybodaeth a'r agwedd i ‘mharatoi ar gyfer hyfforddi fel cyfreithiwr, fy mharatoi i ddelio â'r gofynion ymarferol, ac annog hyder a phroffesiynoldeb. Roedd natur ddwys, ryngweithiol y cwrs wedi fy ngalluogi i brofi rhai o ofynion unigryw'r gwaith fel cyfreithiwr. Roeddwn yn lwcus i gael cefnogaeth Ysgoloriaeth James Pantyfedwen (Gwnewch gais am ysgoloriaeth yma) yn ystod fy nghwrs Meistr i gyfrannu at ffioedd y cwrs. Roedd hwnnw yn help mawr i fy ngalluogi i ddilyn y llwybr at gymhwyso fel Cyfreithiwr.

Profiad gwaith

Cyn cael contract hyfforddi, cefais brofiad gwaith mewn sawl cwmni cyfreithiol masnachol yng Nghaerdydd ac Abertawe, cymerais ran yng nghynlluniau Pro Bono y brifysgol, a chwblheais gynllun haf (Vacation Scheme). Rwyf bellach yn Gyfreithiwr Cyflogaeth newydd gymhwyso yn Capital Law. Dilynais gwrs ychwanegol yn ystod yr LPC er mwyn ennill cymhwyster Eiriolaeth yn y Gymraeg, ble y cefais gyfle i eirioli o flaen Cwnsleriaid Cymreig (KC).

Cytundeb hyfforddi gyda Capital Law

Ar ôl canolfan asesu, gan gynnwys tasg ysgrifenedig, cyflwyniad a chyfweliad, roeddwn yn llwyddiannus i gael Cytundeb Hyfforddi gyda Capital Law. Cyn dechrau’r hyfforddiant, derbyniais swydd dros yr haf fel Paralegal yn yr adran Cyflogaeth & Mewnfudo, ac roedd hynny’n brofiad gwych er mwyn paratoi ar gyfer yr hyfforddiant. Yn ystod fy nghytundeb hyfforddi, cefais flas ar amryw o feysydd, gan gynnwys Busnes (Corporate & Private Equity), Cyfraith Anghydfod (Commercial Litigation), a Chyflogaeth & Mewnfudo.

Gwnes i ymdrech yn ystod fy hyfforddiant i greu cysylltiadau drwy ryngweithio, a chefais fy mhenodi fel Swyddog y Gymraeg i’r Junior Lawyer's Division, Caerdydd a De-ddwyrain Cymru.

Peidiwch â phoeni os nad ydych yn gwybod yn union pa fath o gyfreithiwr rydych eisiau bod yn syth. Mae sawl llwybr i mewn i’r gyfraith, ac mae sgiliau o bynciau eraill fel ysgrifennu, dadansoddi, a meddwl yn feirniadol, yn hynod werthfawr.

 

Byddwch yn chwilfrydig, manteisiwch ar bob cyfle i ddysgu, a pheidiwch â bod ofn gofyn cwestiynau. Mae dyfalbarhad a diddordeb gwirioneddol yn bwysicach na chael llwybr “perffaith”.

Cyngor Megan i fyfyrwyr Lefel A.

Cyngor Megan i ynglyn â phrofiad gwaith.

 

Rwy’n argymell chwilio am brofiad gwaith mewn cwmnïau cyfreithiol lleol, cymryd rhan mewn cynlluniau Pro Bono, a gwneud cais am gynlluniau profiad gwaith haf (Vacation Schemes). Mae’r cyfleoedd hyn yn rhoi cipolwg gwerthfawr ar fywyd gwaith cyfreithiwr ac yn helpu i adeiladu hyder a sgiliau ymarferol.

 

Mae Capital Law yn gweithio’n agos gyda LEDLET – Ymddiriedolaeth Addysg Gyfreithiol yr Arglwydd Edmund-Davies (Lord Edmund Davies Legal Education Trust (LEDLET)) er mwyn gwasanaethu pobl ifanc sy'n byw yng Nghymru neu sydd â chysylltiad â Chymru sydd â diddordeb mewn ymuno â'r proffesiwn cyfreithiol er mwyn sicrhau nad yw cefndir unrhyw unigolyn yn eu hatal rhag ymuno â'r gyfraith. Mae’n bosib gwneud cais ar gyfer eu cynllun profiad gwaith haf a chael profiad yn cysgodi Cyfreithwyr Capital Law.

 

Fel y dywedais yn gynharach, mae Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn cefnogi nifer fawr o fyfyrwyr Meistr (o unrhyw bwnc) trwy ddyfarnu grantiau tuag at gostau ffioedd, a hynny hyd at uchafswm o £5,000. Mae’r wefan yn nodi fod o leiaf 75% o’r grantiau yn cael eu dyfarnu i fyfyrwyr sy’n bwriadu astudio ym mhrifysgolion Cymru (James Pantyfedwen).

 

Hefyd, mae cymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol fel pwyllgorau, mentrau myfyrwyr, neu weithgareddau            gwirfoddol, yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau                                  trosglwyddadwy ac o sefyll allan wrth wneud                        ceisiadau.

_Deall y Drefn Logo.png

Gwybodaeth yw Grym.

Cysylltu

E-bost:
deallydrefn@gmail.com

Neu gyrrwch neges uniongyrchol ar gyfryngau cymdeithasol!

© 2025 gan Deall y Drefn.

bottom of page