Deall y Drefn

Gwybodaeth yw
Grym.
Deall y Drefn yw eich prif adnodd Cymraeg ar gyfer deall y system gyfreithiol, archwilio gyrfaoedd cyfreithiol, a dysgu sut i wireddu eich dyheadau gyrfaol.
Addysgu a Mentora
Datblygiad Proffesiynol
Adeiladu Rhwydwaith
Ein Nod
Mae Deall y Drefn wedi ymrwymo i ddymchwel rhwystrau i'r yrfa gyfreithiol a chreu cyfleoedd i bawb. Rydym yn ymdrechu i ddarparu adnodd cynhwysfawr sy'n symleiddio'r gyfraith ac yn ei wneud yn fwy hygyrch i ieuenctid Cymru i ymuno â'r yrfa gyfreithiol, beth bynnag eu cefndir.
'Da ni yma i helpu!
Mae Deall y Drefn yn adnodd amlbwrpas sydd yma i'ch cefnogi drwy eich addysg gyfreithiol a'ch datglybiad proffesiynol.

Pwyslais ar Ddatblygiad Proffesiynol
Darganfyddwch gynnwys sydd wedi'i anelu at ddatblygiad gyrfaol a’r sgiliau sydd eu hangen i ragori yn y broffesiwn cyfreithiol.

Gwybodaeth Eglur a Chymorth Personol
Dygwch am gysyniadau a systemau cyfreithiol dyrys gyda chymorth adnoddau clir a syml. Gwnewch ddefnydd o gymorth personol drwy yrru eich cwestiynnau i'n e-bost.

Rhwydwaith o Arbennigwyr
Cewch gipolwg o fywyd gwaith ymarferwyr cyfreithiol, dysgu o'u cyngor buddiol, a darganfod rwydweithiau cyfreithiol a all ddarparu cymorth ac arweiniad.

Adnoddau Dysgu Rhyngweithiol
Defnyddiwch ein hoffer dysgu rhyngweithiol sydd wedi'u cynllunio i wella eich dealltwriaeth o gysyniadau cyfreithiol a chreu profiad dysgu difyr.
Ein Rhwydwaith
Ymunwch a'n cymuned o sefydliadau cyfreithiol sy'n rhannu ein nod.

Cysylltwch â ni
Gyrrwch eich cwestiynnau, awgrymiadau neu sylwadau fan hyn!